Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Hydref 2016
Amser: 09.20 -
12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3749
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Lynne Neagle AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Michelle Brown AC Hefin David AC Russell George AC John Griffiths AC Llyr Gruffydd AC Darren Millar AC Julie Morgan AC |
Tystion: |
Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Kara Richards, Llywodraeth Cymru Sam Evans, Llywodraeth Cymru Yr Athro Syr Ian Diamond |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Gareth Rogers (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 999KB) Gweld fel
HTML (999KB)
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
O dan Reol Sefydlog 17.24, datganodd Llyr Gruffydd AC ei fod yn gyn Is-lywydd ar Gyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol, datganodd Lynne Neagle AC fod ei gŵr yn gweithio i Brifysgol De Cymru ar hyn o bryd, a datganodd Hefin David AC ei fod yn ddarlithydd cyswllt ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog dros Ddysgu Gydol Oes a'r Iaith Gymraeg. Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r canlynol:
Canlyniadau'r ymarfer mapio cyfredol o ddarpariaeth y sector gwirfoddol o ran gwaith ieuenctid;
Astudiaethau achos yn dangos lle mae awdurdodau lleol a gweithwyr ym maes ieuenctid yn cydweithio'n dda ac enghreifftiau o ble mae angen cymorth pellach;
Yr holl wybodaeth a gyhoeddir ar y ddarpariaeth statudol ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch ffrydiau ariannu;
Ffigurau ar y lleihad mewn niferoedd staff yn ystod y blynyddoedd diweddar yn adran Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru;
Dadansoddiad o'r £36.6 miliwn sy'n cael ei wario rhwng awdurdodau lleol ar wasanaethau ieuenctid ledled Cymru;
Y themâu sy'n deillio o'r ymgynghoriad diweddar ar gynigion i gefnogi datblygiad Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol newydd.
Trafododd y Pwyllgor yr Adolygiad gyda Syr Ian Diamond.
Cafodd y papurau eu nodi.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunwyd i gynnal ymchwiliadau i'r ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol a'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig. Cytunwyd hefyd i weithio ar y broses o weithredu diwygiadau'r cwricwlwm a chraffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru.